2015 Rhif 1826 (Cy. 266) (C. 114)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 4) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 23 Tachwedd 2015, ddarpariaethau penodol o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn ymwneud â rheoleiddio tai rhent preifat. Mae Rhan 1 yn cynnwys gofyniad, sy’n ddarostyngedig i eithriadau, i landlordiaid anheddau a osodir, neu sydd i’w gosod, o dan denantiaethau domestig, gofrestru gyda’r awdurdod trwyddedu dynodedig. Yn yr un modd, mae’n ofynnol i asiantau landlordiaid a landlordiaid sy’n ymhél â gosod neu reoli anheddau o’r fath wneud cais i’r awdurdod trwyddedu am drwydded.

Bydd y darpariaethau sy’n dod i rym ar 23 Tachwedd 2015 yn caniatáu i landlordiaid fod wedi eu cofrestru ar ôl cyflwyno’r wybodaeth angenrheidiol i’r awdurdod trwyddedu, ac yn caniatáu i landlordiaid ac asiantau fel ei gilydd wneud ceisiadau am drwyddedau i’r awdurdod trwyddedu. O ran trwyddedau, bydd unrhyw apêl gysylltiedig yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu yn apêl i dribiwnlys eiddo preswyl. Bydd gan yr awdurdod trwyddedu’r pwerau i brosesu gwybodaeth a gyflwynir, i gofrestru landlordiaid ac i benderfynu ceisiadau am drwyddedau. Mae darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i’r awdurdod trwyddedu yn drosedd.   

 

 

 

 

 

 

 

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf wedi eu dwyn i rym yn llawn (oni nodir fel arall) drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn: 

 

Darpariaeth

Dyddiad cychwyn

Rhif O.S.

Adrannau 2 i 3

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adrannau 5 i 8

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 10

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 12

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adrannau 14 i 16

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adrannau 19 i 21

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 23

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 29

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 34

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adrannau 40 i 42

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 46

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 49

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 50

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 50

(at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adrannau 51 i 56

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adran 57

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 57

(at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adran 58

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adran 59

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 59

(at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adrannau 60 i 63

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adran 64

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 64

(at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adrannau 65 i 71

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adran 72

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 72

(at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adrannau 73 i 74

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adran 75(1), (2) a (4)

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adrannau 76 i 77

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adran 78

(at ddiben gwneud Gorchmynion, Rheoliadau a Chyfarwyddydau)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 78(2)

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adran 79

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adran 80 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 80

(at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adran 81

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 81

(at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adrannau 82 i 85

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adran 86

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 86

(at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adrannau 87 i 94

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adran 95

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 95

(at bob diben sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adrannau 96 i 97

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adran 98 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 98

(at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adran 99

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 99

(at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adran 100

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Adrannau 101 i 102

25 Chwefror 2015

2015/380

(Cy.  39)

Adran 105

25 Chwefror 2015

2015/380

(Cy.  39)

Adran 106

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 106

(at y dibenion sy’n weddill)

25 Chwefror 2015

2015/380

(Cy.  39)

Adrannau 107 i 110

25 Chwefror 2015

2015/380

(Cy.  39)

Adrannau 111 i 128

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 130 a Rhan 3 o Atodlen 3

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 131(4)(c)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 137

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 140

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 141 a Rhan 5 o Atodlen 3

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Adran 144

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Atodlen 2

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy.  316)

Atodlen 2

(at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Rhan 1 o Atodlen 3

27 Ebrill 2015

2015/1272

(Cy.  88)

Rhan 2 o Atodlen 3

25 Chwefror 2015

2015/380

(Cy.  39)

Gweler hefyd adran 145(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ac adran 145(2) ar gyfer y darpariaethau hynny a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


2015 Rhif 1826 (Cy. 266) (C. 114)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 4) 2015

Gwnaed                                 21 Hydref 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 145(3) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 4) 2015.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.

Y diwrnod penodedig

2. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf ddod i rym i’r graddau nad ydyw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym yw 23 Tachwedd 2015—

(a)     adran 1 (trosolwg o’r Rhan hon);

(b)     adran 2 (ystyr y prif dermau);

(c)     adran 3 (awdurdod trwyddedu);

(d)     adran 14 (dyletswydd i gynnal cofrestr mewn perthynas ag eiddo ar rent) ac Atodlen 1 (cofrestr o dai rhent preifat);

(e)     adran 15 (cofrestru gan awdurdod trwyddedu);

(f)      adran 16 (dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth);

(g)     adran 17 (dirymu cofrestriad);

(h)     adran 18 (trwyddedau y caniateir eu rhoi);

(i)      adran 19 (gofynion cais am drwydded);

(j)      adran 20 (gofyniad person addas a phriodol);

(k)     adran 21 (penderfynu ar gais);

(l)      adran 22 (amodau trwydded);

(m)   adran 23 (dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth);

(n)     adran 24 (diwygio trwydded);

(o)     adran 25 (dirymu trwydded);

(p)     adran 26 (trwydded yn dod i ben neu yn cael ei hadnewyddu);

(q)     adran 27 (apelau trwyddedu);

(r)      adran 36 (ceisiadau am wybodaeth gan awdurdodau a defnyddio gwybodaeth gan awdurdodau);

(s)      adran 37 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol cyflwyno dogfennau neu ddarparu gwybodaeth);

(t)      adran 38 (gorfodi pwerau cael gafael ar wybodaeth);

(u)     adran 39 (gwybodaeth anwir neu gamarweiniol);

(v)     adran 45 (landlordiaid sy’n ymddiriedolwyr);

(w)   adran 47 (gwybodaeth am geisiadau);

(x)     adran 48 (rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon); ac

(y)     adran 49 (dehongli’r Rhan hon a mynegai o dermau wedi eu diffinio).

 

 

 

 

 

Lesley Griffiths

Y  Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

21 Hydref 2015

 



([1]) 2014 dccc 7.